全国统一学习专线 8:30-21:00
专业概况
在这里学什么? Mae hon yn radd amlddisgyblaethol i rai sydd a diddordeb mewn gweithio a phlant a phobl ifanc ond nad ydynt eto wedi penderfynu ar lwybr gyrfa.Byddwch yn astudio modiwlau arloesol, a arweinir gan staff profiadol o’r Ysgol Addysg, i ddatblygu eich dealltwriaeth o hanes plentyndod, hawliau plant, natur plentyndod a swyddogaeth oedolion sy’n gweithio â phlant mewn cyd-destun cenedlaethol, Ewropeaidd a rhyngwladol. Byddwch yn gwneud gwaith astudio academaidd ym meysydd seicoleg, cymdeithaseg, polisi cymdeithasol, addysg, iechyd a lles yn ymwneud a bywydau plant.Diffinnir Plentyndod fel bywyd plentyn o’i flynyddoedd cynnar i flynyddoedd yr arddegau, ac mae cynnwys y rhaglen yn canolbwyntio ar dair prif thema Plentyndod:Y Plentyn a’i (d)datblygiadY Plentyn a chymdeithasY Plentyn a byd addysgBydd y rhaglen drwyddi draw yn hyrwyddo sgiliau astudio a dealltwriaeth i wneud ymchwil i faterion yn ymwneud a phlentyndod.Nod y radd Astudiaethau Plentyndod yw diwallu’r angen presennol am arbenigwyr gyda chymwysterau da a all weithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd mewn ystod o gyd-destunau, yn y gymuned ac mewn sefydliadau. Yn y rhaglen ceir cyfuniad o sylfaen academaidd gadarn ynghyd a dimensiwn ymarferol a gweithredol a fydd yn cynhyrchu gweithwyr proffesiynol a all ymdopi a sialensiau cymdeithas gyfoes a phrysur mewn gwlad ddwyieithog.Yn ystod y radd ceir cyfleoedd bob blwyddyn i fynd ar leoliadau i ddatblygu eich dealltwriaeth o agweddau ar anghenion a datblygiad plant ac i wneud ymchwil i faterion ac ymarfer cyfredol.Elfen allweddol o’r rhaglen yw’r amrywiaeth o siaradwyr gwadd ac ymweliadau addysgol, a fydd yn cyfoethogi’r hyn mae’r myfyrwyr yn ei ddysgu. Mae’r rhain yn cynnwys y cyfle i wirfoddoli a gwneud gwaith gyda phlant o gymunedau difreintiedig yn Romania ac i ymweld a Krakow yng ngwlad Pwyl a chydag arddangosfeydd mewn amgueddfeydd yn Lerpwl.所属院系
进入哪个院系学习? School of Education and Human Development中国学生入学要求
为来自中国的学生设计 English Literature or English Language课程信息
学制:全日制(3 年)
学费:
开学时间:2022九月27日
申请截止日期:
留学地点:Main SiteBangor University,Bangor, Gwynedd,LL57 2DG, Wales