全国统一学习专线 8:30-21:00
专业概况
在这里学什么? Mae datganoli Llywodraeth Cymru a chyflwyno Deddf yr Iaith Gymraeg wedi golygu bod y gallu i siarad a deall Cymraeg at lefel uchel a deallusol yn ddeniadol i gyflogwyr. Wrth i gyfreithiau Cymreig gynyddu, felly hefyd mae’r galw am gyfreithwyr sydd â’r gallu i drin a thrafod y gyfraith trwy gyfrwng y Gymraeg ac o fewn cyd-destun Cymreig.Bwriad y rhaglen hon yw paratoi myfyrwr ar gyfer y Gymru gyfoes a thu hwnt.Mae’r Gyfraith yn bwnc amrywiol sy’n esblygu o hyd wrth iddo ymateb i ddatblygiadau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol. Mae’n rheoli pob agwedd o’n bywyd dyddiol, o anghydfodau rhwng cymdogion a gwarchod yr amgylchedd i faterion cyflogaeth a darpariaeth gofal iechyd. Mewn cymdeithas fodern, ddemocrataidd, mae’r gyfraith yn bodoli i sicrhau cyfiawnder. Mae’r elfen Cymraeg Proffesiynol yn cael ei ddysgu gan Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Ar y cwrs yma byddwch yn datblygu sgiliau sy’n ymwneud â defnyddio’r iaith Gymraeg yn hyderus mewn ystod eang o gyd-destunau proffesiynol ac o fewn y gweithle. Byddwch yn cael eich dysgu gan staff sydd â phrofiad helaeth mewn meysydd fel cyfieithu, ysgrifennu creadigol, astudio a hybu treftadaeth, golygu a chyhoeddi.**Pam astudio LLB Y Gyfraith / Cymraeg Professiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth?** Caiff y rhaglen hon ei haddysgu ar y cyd gan Adran y Gyfraith a Throseddeg a’r Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Yn ogystal â'r modiwlau cyfraith sylfaenol, sy'n cynnwys y rhai sydd eu hangen er mwyn dod yn gyfreithiwr neu'n fargyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr (gan ennill 'Gradd Gymhwyso yn y Gyfraith'), rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o fodiwlau dewisol sy'n cwmpasu pynciau cyfreithiol traddodiadol a chyfoes. Gellir astudio nifer o fodiwlau’r Gyfraith a Throseddeg trwy gyfrwng y Gymraeg.Mae Adran y Gyfraith a Throseddeg yn cynnig cyfleoedd eang i ddatblygu sgiliau cyfathrebu. Mae’r Gymdeithas Ymryson yn agored i holl fyfyrwyr yr adran ac mae’n rhoi cyfle i aelodau ddatblygu chystadleuaeth ffug lys barn.所属院系
进入哪个院系学习? Department of Law and Criminology中国学生入学要求
课程信息
学制:全日制(3 年)
学费:£13,600.00 (¥ 121,685) /年
开学时间:2022九月27日
申请截止日期:
留学地点:Main Site (Aberystwyth)Penglais Campus,Penglais Road,Aberystwyth,Ceredigion,SY23 3DD, Wales