全国统一学习专线 8:30-21:00
专业概况
在这里学什么? Yn y Gymru gyfoes mae galw cynyddol am weithwyr proffesiynol dwyieithog o’r safon uchaf. Wrth ddewis astudio Cymraeg Proffesiynol / Cyfrifeg a Chyllid, byddi'n cyfuno sgiliau ieithyddol a phroffesiynol y Gymraeg ag arbenigedd mewn cyfrifeg a chyllid, a thrwy hynny yn agor drysau i ragolygon gyrfaol gwych. Ar y cwrs arloesol hwn, cei gamu i’r byd busnes yng Nghymru ac ennill sgiliau a phrofiadau hynod werthfawr. Bydd cyfle iti ddysgu sut i weinyddu, golygu, cyfieithu a marchnata. Cei hefyd ennill sgiliau rheoli, cyflwyno, arwain a chydweithio, a byddi'n arbenigo ym meysydd cyfrifeg a chyllid. Mae’r cwrs hwn ar gael i fyfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith, ac mae cyfle unigryw i’w astudio hyd yn oed os nad wyt ti wedi gwneud Cymraeg Safon Uwch Iaith Gyntaf.**Pam Aberystwyth?** Mae Aberystwyth yn cyfuno traddodiad hir â datblygiadau arloesol. Byddi’n dysgu gan arbenigwyr yn eu meysydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ac yn yr Ysgol Fusnes. Mae Aberystwyth hefyd yn nodedig am fod yn gyfeillgar a chroesawgar dros ben ac fe gei gefnogaeth o’r safon uchaf gan ein darlithwyr.- Cymuned Gymraeg fyrlymus yng nghalon Cymru - Byddi'n ymuno ag un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg, a lle sy'n enwog am fod yn gyfeillgar a chroesawgar dros ben.- Enw da – Mae safon ymchwil ac addysgu Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ac Ysgol Fusnes Aberystwyth gyda’r uchaf posib. - Arbenigwyr - Cei dy ddysgu gan ddarlithywyr yn y ddwy Adran sydd yn arbenigwyr yn eu meysydd.- Arloesi - Byddi'n cael dy addysgu mewn awyrgylch arloesol a dynamig yn y ddwy Adran. - Arwain - Mae Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn arwain y sector ym maes Cymraeg yn y gweithle proffesiynol ac astudiaethau cyfieithu.- Dewis eang – Bydd amrywiaeth hynod ddiddorol o gyrsiau unigol ar gael iti, sy’n adlewyrchu diddordebau ymchwil diweddaraf ein darlithwyr, o ddysgu am y Gymraeg mewn cyd-destunau proffesiynol ac yn y cyfryngau i astudio strategaethau busnes a marchnata.- Llyfrgell Genedlaethol Cymru – Yn ogystal â’r adnoddau helaeth sydd gan y Brifysgol, mae’r Adran ar stepen drwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'i chasgliad o adnoddau llenyddol, clywedol a gweledol gwych.- Bywyd Cymdeithasol Cymraeg Byrlymus - Cei ymaelodi ag Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA), byw yn neuadd Pantycelyn, a chymryd rhan men llu o weithgareddau hwyliog a drefnir gan yr undeb.- Boddhad Myfyrwyr - Mae'r canlyniadau ar gyfer Bodlonrwydd Myfyrwyr yn dangos bod canran uchel iawn o'n myfyrwyr yn hapus yn y ddwy Adran. Yn ogystal, mae Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ar y brig yn y DU o safbwynt Astudiaethau Celtaidd fel pwnc (NSS 2020).**Beth fydda i'n ei ddysgu?**Yn dy flwyddyn gyntaf, byddi'n darganfod cyweiriau’r iaith, ynghyd â nodweddion Cymraeg safonol; egwyddorion sylfaenol cyfrifeg a chyllid; cyweiriau'r iaith gyfoes mewn amgylchiadau amrywiol; sut i ddadansoddi data; sgiliau ysgrifenedig, ac yn atgyfnerthu dy ddealltwriaeth o ramadeg y Gymraeg; hanfodion cyfrifeg a chyllid ar gyfer arbenigwyr.Yn dy ail flwyddyn byddi'n archwilio cyfrifeg ariannol ar lefel ganolradd; sut i ddefnyddio'r Gymraeg yn raenus ac yn gywir, yn ysgrifenedig ac ar lafar, gan adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd yn y flwyddyn gyntaf; cyfrifeg rheoli ar lefel ganolradd; gwahanol agweddau ar gyfieithu ac addasu llenyddol, technegol, hanesyddol ac ymarferol; cyllid corfforaethol a'r farchnad ariannol.Yn dy flwyddyn olaf, cei gyfle i astudio gwahanol agweddau ar gyfieithu ac addasu, gan adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd yn yr ail flwyddyn; astudio buddsoddiadau ac offerynnau ariannol; astudio rheolaeth cyfrifeg ar lefel uwch; ymgymryd â phrosiect hir wedi ei seilio ar ymchwil wreiddiol.Byddi'n gallu dewis o blith amrywiaeth eang o fodiwlau dewisol yn ogystal.所属院系
进入哪个院系学习? Welsh/Adran y Gymraeg中国学生入学要求
课程信息
学制:全日制(3 年)
学费:£13,600.00 (¥ 121,685) /年
开学时间:2022九月27日
申请截止日期:
留学地点:Main Site (Aberystwyth)Penglais Campus,Penglais Road,Aberystwyth,Ceredigion,SY23 3DD, Wales